Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
15 Mehefin 2016
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(5 munud)
NDM6023
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1:
Yn sefydlu Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol, deddfwriaethol neu lywodraethol arall sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth.
(5 munud)
NDM6028 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
(i) Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle Brown (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelodau o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro; a
(ii) David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro.
(60 munud)
NDM6020
Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y byddai Cymru'n gryfach, yn ddiogelach ac yn fwy llewyrchus pe byddai'n parhau'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd.
Cefnogir gan:
David Melding (Canol De Cymru) R
(60 munud)
NDM6021 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi llwyddiannau enfawr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wrth gymryd rhan ym mhencampwriaeth Euro 2016 yn Ffrainc ar hyn o bryd.
2. Yn cydnabod y rôl y gallai rhan Cymru yn y bencampwriaeth
ei chwarae o ran hybu cyfranogiad mewn chwaraeon, gwella lefelau
iechyd y cyhoedd a chreu etifeddiaeth barhaus ar gyfer ein
hathletwyr elitaidd.
3. Yn mynegi pryder at ganfyddiadau Arolwg Iechyd diweddar Llywodraeth Cymru, a oedd yn pwysleisio maint yr heriau o ran iechyd y cyhoedd sy'n wynebu Cymru ac a ganfu bod 24 y cant o oedolion yn cael eu hystyried yn ordew a bod 59 y cant o oedolion yn cael eu hystyried i fod dros eu pwysau neu'n ordew.
4. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda chyrff llywodraethu a phartneriaid allweddol i ddefnyddio digwyddiadau fel y ffaith bod Cymru wedi cyrraedd y rowndiau terfynol, ac wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth Euro 2016, i wella iechyd y cyhoedd ac ysgogi mwy o gyfranogid mewn gweithgarwch corfforol.
Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 -
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Cynnwys fel pwynt 4 newydd ac ail-rifo yn unol â
hynny:
Yn gresynu at doriadau i chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru.
(60 munud)
NDM6022
Simon Thomas (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi Bil Cymru;
2. Yn gresynu bod datganoli plismona wedi'i hepgor;
3. Yn gresynu at fethu â sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol benodol neu ar wahân; ac
4. Yn gresynu at y cyfle a gollwyd i ddatganoli gweinyddu cyfiawnder.
Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r Bil fel sylfaen ar gyfer setliad cyfansoddiadol llawnach.
Yn cymeradwyo datganiadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gydweithredu yn ystod y broses ddeddfwriaethol i sicrhau'r canlyniad gorau i bobl Cymru.
Yn credu bod y Bil yn cynnig cyfle i sicrhau gwell cydbwysedd i gyfansoddiad Prydain a thrwy hynny gryfhau'r Undeb.
(30 munud)
NDM6024 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):
Cyflawni dyfodol ynni craffach i Gymru: Blaenoriaethau polisi ynni ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 21 Mehefin 2016